Y Pwyllgor Deisebau |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 15 Tachwedd 2011 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:31 - 10:23 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
William Powell (Cadeirydd) Russell George Bethan Jenkins Joyce Watson |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Abigail Phillips (Clerc) Sarita Marshall (Dirprwy Glerc) Helen Roberts (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
2. Deisebau newydd
2.1P-04-341 Gwastraff a llosgi
Cytunodd y Pwyllgor:
I aros am ymateb gan Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy;
I ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i ofyn i’r mater hwn gael ei drafod fel rhan o’r ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru;
I ohirio’r trafodaethau ar y mater hwn nes daw’r cyfnod cais am dystiolaeth i ben ar 14 Rhagfyr 2011;
Bod y tîm clercio’n sicrhau bod unrhyw fwlch o ran y dystiolaeth ysgrifenedig a ddaeth i law hyd yma’n cael ei lenwi. Er enghraifft, hoffai’r Pwyllgor gael tystiolaeth gan awdurdodau lleol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar y mater hwn.
2.2P-04-342 Nyrsys MS
Cytunodd y Pwyllgor:
I ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ei barn am y materion a godwyd yn y ddeiseb;
Y dylai’r tîm clercio wirio ymateb y Gweinidog i gwestiynau a ofynnwyd am y mater hwn mewn Cyfarfod Llawn yn ddiweddar;
I ysgrifennu at y Byrddau Iechyd Lleol i holi am eu cynlluniau cyllidebu ar gyfer darparu’r Gwasanaeth yn y dyfodol.
2.3P-04-343 Atal dinistrio amwynderau ar dir comin - Ynys Môn
Cytunodd y Pwyllgor:
I wahodd y deisebwyr i roi tystiolaeth lafar i’r Pwyllgor;
I ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy i ofyn am ei farn am y materion a godwyd yn y ddeiseb;
I gyhoeddi cais am dystiolaeth ar y pwnc.
3. Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
3.1P-03-144 Cwn tywys y deillion
Cytunodd y Pwyllgor:
Y dylid trosglwyddo’r wybodaeth ddiweddaraf a ddaeth i law gan Gymdeithas Cŵn Tywys y Deillion i’r Aelodau i’w hystyried;
Y dylid cyflwyno’r wybodaeth hon i’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau hefyd fel y gall y Pwyllgor drafod y materion a godwyd gyda’r Gweinidog yn y sesiwn tystiolaeth lafar nesaf.
3.2P-03-170 Cynyddu nifer y bobl ag anableddau dysgu a gyflogir gan y sector cyhoeddus yng Nghymru
Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb hon.
3.3P-03-298 Cyllid ar gyfer darparu adnoddau Cymraeg ar gyfer pobl â dyslecsia yng Nghymru
O gofio bod swyddogion y Gweinidog yn cynnal trafodaethau ag Estyn ynglŷn â’r mathau o ddeunydd Cymraeg sydd eu hangen i gynorthwyo dysgwyr sydd â dyslecsia, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb, ar yr amod bod croeso i’r deisebydd gysylltu â’r Pwyllgor eto os na fydd y cynllun i gomisiynu deunydd yn dwyn ffrwyth.
3.4P-04-325 Arian a fyddai’n galluogi disgyblion sydd ag anghenion addysgol arbennig i gael mynediad i addysg ôl-16 prif-ffrwd
O gofio y bydd Grŵp Datblygu a Gweithredu yn parhau â’r gwaith ar ariannu anghenion dysgu ychwanegol ôl-16, a gwaith Mencap ar hynny, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb.
3.5P-04-320 Polisi tai cymdeithasol
Cytunodd y Pwyllgor i nodi eglurhad y Gweinidog o’r term ‘cysylltiad lleol’, a chau’r ddeiseb.
3.6P-04-336 Papur Cymraeg dyddiol i Gymru
Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a chyfeirio’r deisebwyr i’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y Rhagolygon ar gyfer Dyfodol y Cyfryngau yng Nghymru.
3.7P-04-329 Rheoli swn o dyrbinau gwynt sy’n peri diflastod
Cytunodd y Pwyllgor:
I drefnu ymweliad safle ar gyfer aelodau’r Pwyllgor a oedd yn dymuno hynny;
I drosglwyddo’r dystiolaeth a ddaeth i law i’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i’w hystyried fel rhan o’i ymchwiliad i bolisi ynni a chynllunio yng Nghymru;
I ymchwilio i’r posibilrwydd o gynnal ymweliad safle ar y cyd â’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd;
I gomisiynu papur ymchwil ar y pwnc i’w ystyried yn y dyfodol.
3.8P-03-162 Diogelwch ar y ffyrdd yn Llansbyddyd
Cytunodd y Pwyllgor i drafod y mater gyda’r Gweinidog yn y sesiwn tystiolaeth lafar nesaf ac, yn benodol, i drafod unrhyw bolisi y seiliwyd y penderfyniad i beidio â darparu goleuadau gwell arno, a materion ynghylch awdurdodau lleol yn diffodd goleuadau stryd / goleuadau ar ochr y ffordd er mwyn arbed adnoddau.
3.9P-03-304 Gwelliant i Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008
Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb hon.
3.10 P-04-331 Ffilmio a Recordio Cyfarfodydd Cynghorau
3.11
Datganodd y Cadeirydd fuddiant gan ei fod wedi cyhoeddi Datganiad Barn ar ddarlledu cyfarfodydd awdurdod parciau cenedlaethol ac wedi cefnogi Datganiad Barn gan William Graham AC, a oedd yn cefnogi’r materion hyn yn gyffredinol.
Cytunodd y Pwyllgor:
I drafod y ddeiseb hon gyda’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau yn y sesiwn dystiolaeth nesaf;
I gomisiynu gwaith ymchwil ar y gost o ffilmio cyfarfodydd cynghorau, a chynnwys barn Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru am y mater.
3.12 P-04-332 Manylion Gwariant dros £500 gan Awdurdodau Lleol
3.13
Cytunodd y Pwyllgor:
I drafod y ddeiseb hon gyda’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau pan fydd yn rhoi tystiolaeth i’r Pwyllgor ar 10 Ionawr;
I gomisiynu gwaith ymchwil ar y gost o gyhoeddi manylion gwariant sydd dros £500 gan awdurdodau lleol, ac a ellid cyfiawnhau’r gost o gyhoeddi’r wybodaeth hon os bydd gostyngiad yn nifer y ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth a’r costau sy’n gysylltiedig ag ateb y ceisiadau hynny.
3.14 P-03-085 Meddygfeydd yn sir y Fflint
Cytunodd y Pwyllgor:
I ysgrifennu at Gyngor Iechyd Cymuned Betsi Cadwaladr i ofyn am ei farn ynghylch y materion a godwyd yn y ddeiseb ac i ofyn a yw’n cynnal ymgynghoriad i’r materion hynny;
I ysgrifennu at Gyngor Sir y Fflint i ofyn am wybodaeth am yr amserlen ar gyfer y cynlluniau arfaethedig i ailddatblygu canol tref y Fflint;
I anfon yr ohebiaeth hon at Sandy Mewies AC a’r pedwar Aelod Cynulliad rhanbarthol.
3.15 P-03-295 Kyle Beere - gwasanaethau niwroadsefydlu paediatrig
Cytunodd y Pwyllgor:
I ysgrifennu at Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru i ofyn am wybodaeth am nifer y plant sydd ag anghenion niwroadsefydlu cymhleth a oedd angen mynediad at wasanaethau Tadworth mewn blynyddoedd blaenorol er mwyn gallu deall maint y broblem yn llawn;
I drosglwyddo’r ohebiaeth a ddaeth i law gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru i’r deisebydd roi sylwadau arni;
I ysgrifennu at Headway i ofyn am ei farn ynghylch y materion a godwyd yn y ddeiseb a’r ohebiaeth a gafwyd gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru.
4. Papur i'w Nodi - P-04-337 Tenovus: Eli Haul am Ddim
Nododd y Pwyllgor y papur.
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.